





































Amcan
Ar ran pwyllgor trefnu y digwyddiad Image-Based Finite Element Method for Industry (IBSim-4i), mae’n bleser i’ch gwahodd i gymryd rhan yn y fenter yma sydd wedi ei lansio'n ddiweddar i ddatblygu’r gymuned o bobl sy’n defnyddio ‘modelu o ddelweddau’ yn y sector ddiwydiannol.
Mae ‘rhwyllo ar sail delweddau’ yn broses sy’n trosi delweddau 3D (e.e. o CT Pelydr-X neu sganio laser) i mewn i model gyfrifiadurol hynod o fanwl. Caiff delweddu 3D ei ddefnyddio yn fwyfwy yn y sector ddiwydiannol fel techneg archwilio di-ddinistr ond does dim llawer o ddefnydd o ‘modelu o ddelweddau’ ar hyn o bryd. Ein nod yw defnyddio gweithgareddau IBSim-4i i hwyluso defnydd ehangach o ‘modelu o ddelweddau’ ac i fod yn gyfle i drafod y datblygiadau diweddaraf yn y maes.
Fydd IBSim-4i yn fforwm delfrydol i ddatblygu syniadau ag i ddechrau cysylltiadau cydweithio newydd fydd yn gymorth i adeiladu rhwydweithiau o fewn y DU ac yn rhyngwladol.
Trefn
Rhennir y digwyddiad yn ddwy ran:
- Diwrnodau 1-2: hyfforddiant yn y nifer ddulliau sydd ei angen ar gyfer ‘modelu o ddelweddau’
- Diwrnodau 3-4: fforwm defnyddwyr a datblygwyr sy’n cynnwys y cyflwyniadau gan y prif siaradwyr a digwyddiad rhwydweithio gyda’r hwyr.
Themâu
Fydd y ffocws ar unrhyw agwedd o ‘modelu o ddelweddau’, er enghraifft:
- Dulliau delweddu 3D (Tomograffi Peledr-X / niwtron, sganio laser ayyb)
- Prosesu delweddau 3D a segmentu
- Gweledigaeth gyfrifiadurol
- Deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau
- Technegau trosi delweddau i rwyll
- Finite element analysis (FEM/FEA)
- Computational fluid dynamics (CFD)
- Uwch-gyfrifiaduro
- Delweddu gwyddonol ar raddfa fawr
- Gweithgynhyrchu gwerth uchel
- Diwydiant 4.0
- Ffatrïoedd y dyfodol
I bwy mae’r digwyddiad?
Y bwriad yw bod IBSim-4i yn addas i ymchwilwyr o’r sector academaidd neu ddiwydiannol sydd â llawer o brofiad â ‘modelu o ddelweddau’ neu sydd newydd ddiddori yn y dechneg bwerus yma.
Gellir cofrestru yma, neu mae yna nifer fach o grantiau ar gael wrth wneud cais yma.
Trefnwyr
Trefnir IBSim-4i gan Ganolfan Peirianneg Gyfrifiadurol Zienkiewicz, Prifysgol Abertawe â chefnogaeth gan the IOP, EPSRC, NCAF a CCPi.